• Skip to main content
  • Skip to footer
  • Hafan
  • Beth ydy ‘All Afloat’
    • Ymddiriedolwyr
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Cymerwch ran
  • Lles Plant a Diogelu
    • Canllawiau ‘All Afloat’ ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant
    • Plant a Phobl Ifanc
    • Ffotograffiaeth, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefannau
    • Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr
    • Riportio Digwyddiadau
    • Byrddau Lleol Diogelu Plant
    • Rhieni a Gofalwyr
    • Cwestiynau Mynych (FAQs)
  • Donate
  • English

Rhif Elusen Gofrestredig 1175241

Helpwch Turn the Tide on Plastic!

30th April 2018 by Kieran John

RYA Cymru Wales ac All Afloat yn croesawu Turn the Tide on Plastic a Ras Cefnfor Volvo i Gaerdydd.

Ar 20fed Mai bydd fflyd Ras Cefnfor Volvo yn hwylio o Newport, Gogledd America, i Gaerdydd yng Nghymal 9 y ras hwylio o amgylch y byd. Mae disgwyl iddynt gyrraedd Caerdydd tua 28ain Mai lle byddant yn cael croeso cynnes yn ôl i Ewrop. Bydd y morwyr wedi wynebu amodau anodd wrth iddynt hwylio dros Gefnfor y De a chroesi’r cyhydedd.

Mae RYA Cymru Wales, ynghyd â’i bartner elusen All Afloat, wedi cael gwahoddiad i ddewis grŵp ysgol i gael galwad skype 2 i 3 munud â chapten ac aelod o griw ‘Turn the Tide on Plastic’. Caiff Turn the Tide on Plastic ei ystyried fel yr ymgeisydd mwyaf Prydeinig yn y ras ac mae Bleddyn Môn, y morwr o Gymru, ar fwrdd y cwch hwylio.

Mae Turn the Tide on Plastic, dan arweiniad Dee Caffari o Brydain, yn dîm cymysg, ifanc, a chanddo neges gref ynghylch cynaliadwyedd. Mae’r ymgyrch, sy’n cael cefnogaeth gan y Mirpuri Foundation a’r Ocean Family Foundation, y partneriaid cynaliadwyedd blaenllaw, wedi ymrwymo i broblem iechyd y môr. Mae’r ymgyrch hefyd yn cael cefnogaeth gan Sky Ocean Rescue a ddaeth yn bartner i’r tîm yn y cyfryngau yn ddiweddar er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n wynebu ein moroedd.

Un o brif nodau’r tîm yw ymhelaethu ar ymgyrch ‘Clean Seas: Turn the Tide on Plastic’ Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig drwy gydol wyth mis y ras.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y cyfle hwn gan fod cymaint o sylw’n cael ei roi i’r angen am lanhau ein cefnforoedd a sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Ar fyr rybudd, rydym wedi penderfynu ar thema cystadleuaeth i’n helpu ni i ddewis y grŵp ysgol lwcus i ymuno â’r alwad skype hon.

Gan fod y ras yn ddibynnol iawn ar amodau’r gwynt a’r tywydd, mae’r gwaith o gynllunio gweithgareddau yn logistaidd bob amser yn gallu newid ar fyr rybudd. Mae hyn yn golygu nad oes modd i ni ar y pwynt hwn warantu amser na diwrnod ar gyfer galwad neu ymweliad, ond byddwn yn gweithio’n agos gyda’r enillydd a ddewisir.

Rydym yn cynnig dau gyfle i ennill gwobr. Bydd y wobr gyntaf yn agored i unrhyw ysgol neu grŵp ond bydd yr ail wobr yn gyfyngedig i ysgol neu grŵp o fewn pellter byr i Gaerdydd.

Cystadleuaeth.

  • Adeiladu a thynnu llun o gerflun sydd wedi’i wneud o blastig sydd wedi’i daflu ar draeth neu mewn afon neu lyn. Rhaid i’r cerflun gyfleu thema ‘Blwyddyn y Môr Cymru’. E-bostiwch, postiwch neu rannu eich llun ag RYA Cymru Wales
  • Cyflwyno paragraff byr (dim mwy na 200 o eiriau) yn nodi pam eich bod yn meddwl y dylai rhai o griw ‘Turn the Tide on Plastic’ ymweld â’ch ysgol neu’ch grŵp.

Hyrwyddo

Caiff y gystadleuaeth ei hyrwyddo gan RYA Cymru Wales ac mae’n agored i unrhyw ysgol neu grŵp yng Nghymru. Derbynnir ceisiadau gan blant ysgol blwyddyn 6 ac iau.

Gwobr:

  • Galwad skype 2 i 3 munud gyda’r capten (Dee Caffari) a Bleddyn Môn, y morwr o Gymru, wrth iddynt groesi Cefnfor Iwerydd. Bydd amser a dyddiad yr alwad yn amodol ar yr amodau ond bydd rhwng yr 20fed a’r 27ain
  • Yn dibynnu ar leoliad yr ysgol ac amserlen y morwyr yn y porthladd, mae’n debyg y cynhelir ymweliad aelod o’r criw ag ysgol yng Nghymru ar 4ydd,5ed,6ed Mehefin

Beirniaid:

  • Ymddiriedolwyr All Afloat Wales
  • Aelod o dîm Turn the Tide on Plastic

Dyddiadau:

Lansio’r gystadleuaeth 30ain Ebrill

Dyddiad cau’r gystadleuaeth 14eg Mai

Cyhoeddi’r enillydd 17eg Mai

Dylai’r holl ymgeiswyr ddarllen Telerau ac Amodau y gystadleuaeth cyn cystadlu.

Pob lwc!

Lluniau – https://twitter.com/TurnTidePlastic

Filed Under: blog

Footer

About us

  • About Us
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Donate
  • Cymerwch ran

Support All Afloat on AmazonSmile

smile.amazon.co.uk

CAIFF EIN RHAGLEN GEFNOGAETH GAN DILYNWCH

Follow

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
#AllAfloat
01248 670814
info@all-afloat.wales
  • Privacy Policy
  • Terms & Conditions
  • Login

© 2025 · All Afloat · Rhif Elusen Gofrestredig 1175241​ · Swyddfa Gofrestredig: 8 Llys-y-Môr, Plas Menai, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1UE