• Skip to main content
  • Skip to footer
  • Hafan
  • Beth ydy ‘All Afloat’
    • Ymddiriedolwyr
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Cymerwch ran
  • Lles Plant a Diogelu
    • Canllawiau ‘All Afloat’ ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant
    • Plant a Phobl Ifanc
    • Ffotograffiaeth, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefannau
    • Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr
    • Riportio Digwyddiadau
    • Byrddau Lleol Diogelu Plant
    • Rhieni a Gofalwyr
    • Cwestiynau Mynych (FAQs)
  • Donate
  • English

Rhif Elusen Gofrestredig 1175241

Beth ydy ‘All Afloat’?

Elusen annibynnol wedi ei chychwyn gan RYA Cymru Wales (y corff cenedlaethol Cymreig sy’n rheoli hwylio) ydy ‘All Afloat’ a’r nod ydy darparu cyfle i bobl ifanc yng Nghymru i drin cychod a chynnig sgiliau bywyd iddyn nhw. Darparodd ‘All Afloat’ 220 sesiwn profiad cyntaf ac ardystio dros 70 o hwylwyr ifanc drwy ganolfannau a chlybiau yn 2017, gyda chyllid sbarduno cychwynnol gan RYA Cymru Wales a thrwy gyfuno’r rhaglen ‘RYA OnBoard’. Yn 2018 a thu hwnt, bwriadwn barhau i weddnewid bywydau drwy rym hwylio a thrwy helpu i ddarparu rhagor o bobl ifanc mewn rhagor o leoliadau.

Mae rhaglen ‘All Afloat’ yn helpu RYA Cymru Wales i gael Pob Plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am Oes.

Lansiwyd ‘All Afloat’ am y tro cyntaf fel menter newydd ym Mai 2017 gan RYA Cymru Wales. Nod RYA Cymru Wales oedd darparu cyfle i bobl ifanc i ‘roi cynnig’ ar amrediad o weithgareddau hwylio a gweithgaredd trin cychod ac i gymryd rhan, gyda’r gobaith y bydden nhw’n ennill cymwysterau RYA cydnabyddedig.

Gweledigaeth ‘All Afloat’ ydy gweddnewid bywydau drwy rym hwylio. Ar gyfer rhai o blith lleiafrifoedd a chefndiroedd difreintiedig rydyn ni’n darparu cyfle nid yn unig i roi cynnig ar hwylio, ond hefyd i gynnig llwybr i fod yn hyfedr a’i wneud yn hoffter angerddol am oes.

– Phil Braden, Prif Weithredwr RYA Cymru Wales

 

Yn 2017, fe dderbynion ni gyllid sbarduno gan Chwaraeon Cymru (un o asiantaethau llywodraeth y DU) ar gyfer rhaglen beilot ‘All Afloat’ yng Ngogledd, Gorllewin a De Cymru. Roedd y peilot yn targedu plant o gefndiroedd difreintiedig a lleiafrifol na fyddai fel arall wedi cael cyfle i gael profiad o hwylio a thrin cychod a darparu cyfle iddyn nhw nid yn unig i roi cynnig ar y gweithgaredd, ond i ddod yn hyfedr ac i gynnig llwybr i weithgaredd rheolaidd; mewn gair, i’w cael i ymddiddori mewn hwylio am eu hoes.

Mae hwylio’n hyrwyddo’r gwerthoedd craidd o hyder, hunan-ddibyniaeth, gwaith tîm a llythrennedd corfforol. Mae’r plant sydd wedi ymddiddori yn y gamp yn llythrennol yn gweddnewid eu bywydau eu hunain. Maen nhw’n rhyngweithio â grŵp newydd o gyfoedion sy’n actif yn gorfforol ac yn edrych ymlaen; maen nhw’n cydweithio â phlant hŷn sydd wedi dod yn hyfforddwyr cynorthwyol ac yn gweld y gall bywyd ym myd chwaraeon, yn broffesiynol neu fel gweithgaredd hamdden, fod yn realiti iddyn nhw.

Bellach mae rhaglen ‘All Afloat’ yn symud i gyfnod newydd. Mae Chwaraeon Cymru wedi darparu cyllid graddedig ar gyfer 2018 a 2019 ac rydyn ni’n chwilio am ffynonellau cyllido newydd, nid yn unig i barhau’r cynllun yn y blynyddol i ddod, ond i gynyddu’r rhaglen yn ddirfawr. Mae ‘All Afloat’ yn Sefydliad Corfforaethol Elusennol cofrestredig (CIO) gyda’r rhif elusen 1175241.

Pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am oes

Un o brif amcanion Chwaraeon Cymru ydy cael pob plentyn i brofi manteision cadarnhaol a geir o gymryd rhan mewn chwaraeon.

“Nid yn unig y manteision i iechyd, ond hefyd i hyder ac o ran y sgiliau newydd, fel sgiliau arwain, a ddatblygir wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Rydym eisiau rhoi llais i bobl ifanc a’u hannog i ysbrydoli eu cyfoedion i wirioni ar chwaraeon am oes.”

– Chwaraeon Cymru

Cynlluniwyd ‘All Afloat’ i roi cyfle i blant heb roi cynnig ar hwylio i ddatblygu sgiliau newydd ac ymddiddori yn y gamp gyffrous hon.

Drwy ‘All Afloat’, mae RYA Cymru Wales yn gobeithio cael pob plentyn sy’n cymryd rhan i wirioni ar chwaraeon am oes, drwy hwylio.

RYA Cymru Wales

RYA Cymru Wales ydy’r Corff Rheoli Cenedlaethol ar gyfer yr holl hwylio a thrin cychod yng Nghymru. Mae ei aelodau’n cynnwys clybiau lleol a rhanbarthol a chanolfannau masnachol campau dwr. Caiff RYA Cymru Wales ei ariannu gan gymdeithas RYA a Chwaraeon Cymru sydd â’r weledigaeth “Pob Plentyn wedi Gwirioni ar Chwaraeon am Oes” drwy “greu Cenedl o Bencampwyr”.

Footer

About us

  • About Us
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Donate
  • Cymerwch ran

Support All Afloat on AmazonSmile

smile.amazon.co.uk

CAIFF EIN RHAGLEN GEFNOGAETH GAN DILYNWCH

Follow

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
#AllAfloat
01248 670814
info@all-afloat.wales
  • Privacy Policy
  • Terms & Conditions
  • Login

© 2025 · All Afloat · Rhif Elusen Gofrestredig 1175241​ · Swyddfa Gofrestredig: 8 Llys-y-Môr, Plas Menai, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1UE