Gallwch lawrlwytho Polisi a Chanllawiau ‘All Afloat’ ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant o’r dudalen.
Polisi a Chanllawiau ‘All Afloat’ a’r RYA ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant
Mae dyddiad ar bob adran fel gallwch chi weld yn rhwydd beth sydd wedi newid ers i chi adolygu’ch gweithdrefnau eich hunain ddiwethaf.
Bwriad y ddogfen Canllawiau ydy eich helpu wrth ddarparu Polisi a Gweithdrefnau eich sefydliad eich hunain. Mae yna enghraifft o bolisi clwb/canolfan sy’n delio â’r pwyntiau hanfodol, yna gallwch ychwanegu rhannau a dogfennau templed sy’n berthnasol i’ch sefydliad.
Ychwanegwyd cyfeiriadau at y defnydd o gyfathrebu electronig yn y Canllaw Arferion Da, ac am feithrin perthynas amhriodol a sut i drafod honiadau hanesyddol.
Efallai bydd clybiau’n penderfynu mabwysiadau Cod Ymddygiad fel gall cyfranogwyr ieuanc, rhieni a gwirfoddolwyr fod yn glir am eu cyfrifoldebau – gweler yr enghreifftiau dan bennawd Dogfennau Perthynol / Related Documents ar ochr dde’r dudalen hon.
Cynghorir clybiau gyda Chanolfannau Hyfforddi Cydnabyddedig yr RYA i sicrhau bod polisi Diogelu yn cael ei fabwysiadau gan y clwb yn gyfan, nid y Ganolfan Hyfforddi yn unig, a bod yr holl aelodau’n ymwybodol ohono.