Cwestiynau Mynych (FAQs)
- Beth ydy ystyr Diogelu?
- Mae Diogelu’n derm cymharol newydd sy’n ehangach nac ‘amddiffyn plant’ ac mae hefyd yn cynnwys ‘atal’. Mae Diogelu wedi ei ddiffinio fel hyn:
- Dylai pob asiantaeth sy’n gweithio â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd gymryd pob cam rhesymol i sicrhau fod y risg i niweidio lles plant wedi ei leihau mor isel â phosibl; a hefyd
- Os oes pryder am les plant a phobl ifanc, dylai pob asiantaeth weithredu’n briodol i daclo’r pryderon hynny, gan weithio i bolisïau a gweithdrefnau wedi’u cytuno mewn partneriaeth lawn ag asiantaethau lleol eraill.
Nid yn unig mae cael amodau diogelu ar waith mewn sefydliad yn diogelu a hyrwyddo lles y plant, ond mae hefyd yn cryfhau hyder yr ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr, rhieni/gofalwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae diogelu plant yn fuddiol i sefydliad mewn llawer ffordd – yn amddiffyn ei enw da, yn helpu i gwrdd a’i amcanion ac yn amddiffyn ei gyllid.
O ran dibenion deddfwriaeth amddiffyn plant mae’r term ‘plentyn’ yn cyfeirio at unrhyw un hyd at 18 mlwydd oed.
- Pwy sydd angen gwiriad Y Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd (DBS)?
Mae gwiriad DBS yn un dull o sicrhau fod gennych y bobl gywir yn eu lle. Gallwch ganfod rhagor am recriwtio doeth drwy fynd ar wefan y DBS.
Os ydych chi’n gweithio’n rheolaidd â Phobl Ifanc neu Oedolion Agored i Niwed, byddwch angen gwiriad DBS. Mae hyn yn golygu pawb sy’n helpu yn eich clwb sydd â chyswllt rheolaidd â phlant. (Mwy na thair gwaith y mis ydy’r ddeddfwriaeth gyfredol).
Mae ‘All Afloat’ yn cynnig Gwiriad DBS Manylach am ddim i bob gwirfoddolwyr. Mae’r broses yn gyflym a syml.
- Sut galla i wneud cais am wiriad DBS?
Fe wnaiff Swyddog Lles y Clwb ofyn am eich cais ar ran RYA Cymru Wales. Os mai chi ydy Swyddog Lles y Clwb yna gallwch wneud cais am ffurflenni cais y DBS drwy alw 023 8060 4104 neu anfon e-bost at y DBS neu fynd ar wefan y llywodraeth.
- A all Swyddog Lles y Clwb wirio ffurflen DBS perthynas?
- Na. Mewn achos o’r fath dylai’r ffurflen gael ei gwirio gan naill ai Gadeirydd neu Ysgrifennydd y Clwb. Dylai’r ffurflen gael ei dychwelyd gyda llythyr, gorau oll ar bapur pennawd y clwb, i gadarnhau eu bod wedi gweld eich ID.
- Pwy sy’n gwirio DBS Swyddog Lles y Clwb?
- Yn yr achos hwn, dylai’r ffurflen gael ei gwirio gan naill ai Gadeirydd neu Ysgrifennydd y Clwb. Dylai’r ffurflen gael ei dychwelyd gyda llythyr, gorau oll ar bapur pennawd y clwb, i gadarnhau eu bod wedi gweld eich ID.
- Sut gallai i fod yn Swyddog Lles Clwb ar gyfer ein clwb ni?
Cysylltwch gyda’ch Swyddog Datblygu Rhanbarthol yn RYA Cymru Wales a chewch yr holl wybodaeth angenrheidiol.
- Beth ddylwn ni ei wneud os oes gen i bryderon am ddiogelwch neu les plentyn?
Dylech gofnodi’r holl ffeithiau a manylion perthnasol ac yna riportio’r pryder i Uned Ddiogelu’r RYA. Ffurflen Riportio Digwyddiad ‘All Afloat’
Os bydd plentyn yn dweud wrthoch chi ei fod e / ei bod hi’n cael ei gam-drin/cham-drin, dylech wrando’n ofalus. Dwedwch wrtho / wrthi bydd angen i chi ddweud wrth rywun arall am y broblem, ac y byddwch yn ceisio gweld os gall rhywun helpu.
Peidiwch a dechrau holi cwestiynau manwl am y pryder, a pheidiwch a chychwyn ymholiad.
Dylech riportio’ch pryder i Swyddog Lles eich Clwb. Os byddwch angen cyngor ar frys, cysylltwch â Phil Braden, Prif Weithredwr RYA Cymru Wales ar 01248 670814.
- Pa gyfrifoldebau amddiffyn plant sydd gen i os ydw i’n gweithio gyda phlant?
Mae gennych ddyletswydd i ofalu am unrhyw blant byddwch chi’n gweithio â nhw. Mae hyn yn golygu dylech gymryd camau rhesymol i amddiffyn y plant hynny rhag niwed.
I wneud hyn, dylech sicrhau eich bod yn cynllunio a chyflawni eich gweithgareddau yn unol â chanllawiau RYA Cymru Wales. Dylech hefyd sicrhau bod unrhyw oedolion eraill sy’n rhan o’ch gweithgareddau wedi eu recriwtio’n briodol ac wedi eu gwirio.
Os ydych chi’n gweithio mewn clwb, dylech annog y clwb i gyflwyno mesurau diogelu i gefnogi’r holl weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y clwb.