• Skip to main content
  • Skip to footer
  • Hafan
  • Beth ydy ‘All Afloat’
    • Ymddiriedolwyr
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Cymerwch ran
  • Lles Plant a Diogelu
    • Canllawiau ‘All Afloat’ ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant
    • Plant a Phobl Ifanc
    • Ffotograffiaeth, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefannau
    • Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr
    • Riportio Digwyddiadau
    • Byrddau Lleol Diogelu Plant
    • Rhieni a Gofalwyr
    • Cwestiynau Mynych (FAQs)
  • Donate
  • English

Rhif Elusen Gofrestredig 1175241

Ffotograffiaeth, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefannau

Arferion da ynglŷn â ffotograffiaeth, gwefannau a chyfyngau cymdeithasol

Ffotograffiaeth

Mae cyhoeddi erthyglau a lluniau mewn cylchlythyron clwb, gwefannau, papurau lleol ayb. yn ddull ardderchog o gydnabod cyflawniadau pobl ifanc ac i hyrwyddo eich sefydliad a’r gamp yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae’n bwysig lleihau’r risg o rywun gamddefnyddio delweddau o blant mewn modd anaddas. Mae technoleg ddigidol yn ei gwneud yn hawdd i dynnu, storio, anfon, trin a chyhoeddi delweddau. Wrth gydnabod a chyhoeddi canlyniadau pobl ifanc, h.y. enillwyr cystadlaethau, byddwch yn ofalus wrth gyhoeddi delweddau ac enwi’r bobl ifanc.

Mae dwy egwyddor i’w cofio:

Cyn tynnu lluniau neu fideos, rhaid cael caniatâd ysgrifenedig y plant a’u rhieni/gofalwyr ar gyfer tynnu lluniau a’u defnyddio:

  • Dylid cynnwys ffurflen rhoi caniatâd gyda phob ffurflen gais i gystadlu (Ffurflen Caniatâd Rhiant Dogfen Sampl ‘All Afloat’).
  • Dylai unrhyw ffotograffydd neu aelod o’r wasg a’r cyfryngau sy’n mynychu digwyddiad fod yn gwisgo gwybodaeth i’w adnabod ar bob adeg a dylai gael briffiad ymlaen llaw ar eich disgwyliadau am ei ymddygiad e/hi a’r materion sydd yn cael eu trafod yn y canllawiau hyn.
  • Peidiwch â gadael i ffotograffydd gael mynediad heb ei oruchwylio at bobl ifanc yn y digwyddiad nac i drefnu sesiynau ffotograffiaeth tu allan i’r digwyddiad.
  • Dylid hefyd cael caniatâd i ddefnyddio fideo fel cymorth hyfforddi. Dylai unrhyw ddefnydd arall gan hyfforddwr gael ei ystyried fel torri Côd Moesegol ac Ymddygiad.
  • Rhaid cymryd gofal wrth storio a chael mynediad i ddelweddau.

Wrth gyhoeddi delweddau, gwnewch yn siŵr eu bod yn addas ac nad ydych yn cynnwys unrhyw wybodaeth fyddai’n galluogi rhywun i gysylltu gyda’r plentyn.

  • Mae’n well defnyddio siot gyffredinol o’r rhai sy’n cymryd rhan ar y dŵr, neu siot o grŵp o enillwyr, heb eu henwi’n unigol.
  • Os byddwch yn cydnabod cyflawniadau hwyliwr/wraig unigol ac yn dymuno cyhoeddi ei enw/henw gyda’r llun, PEIDIWCH â chyhoeddi unrhyw wybodaeth arall (e.e. ble mae e/hi yn byw, enw’r ysgol, hobïau a diddordebau eraill) gallai hynny alluogi rhywun i gysylltu â’r plentyn, cyfeillachu neu feithrin perthynas amhriodol gyda’r plentyn.
  • Sicrhewch fod y bobl ifanc yn y lluniau wedi eu gwisgo’n addas, i leihau’r risg o ddefnydd anaddas.

Mae’r mwyafrif o weithgareddau hwylio’n digwydd mewn ardaloedd sy’n agored i’r cyhoedd ac felly mae’n amhosibl rheoli pob ffotograffiaeth, ond dylid riportio unrhyw bryderon am ffotograffiaeth amhriodol neu ymwthiol, neu ddefnydd amhriodol o ddelweddau, i swyddog amddiffyn/lles plant y sefydliad a’i drin yn yr un modd ag unrhyw bryderon eraill am amddiffyn plant. Dylai rhieni a chynulleidfa fod yn barod i ddatgelu pwy ydyn nhw os gofynnir am hynny ac i ddatgan eu rheswm dros y ffotograffiaeth/ffilmio.

Ni ddylid caniatáu camerâu neu gamerâu ffôn mewn ardaloedd gwisgo a newid dan unrhyw amgylchiadau. Dylid ystyried eu defnydd gan bobl ifanc fel ffurf o fwlio.

Gwefannau a Chyfryngau Cymdeithasol

Wrth hyrwyddo eich clwb ac annog eich aelodau i ryngweithio drwy wefan neu rwydwaith cymdeithasol megis Facebook, mae rhai materion y dylid eu cofio mewn perthynas â phlant a phobl ifanc:

  • dilynwch ganllawiau ‘All Afloat’ ar y defnydd o ddelweddau plant (gweler yr adran uchod ar Ffotograffiaeth)
  • sicrhewch fod y cynnwys a’r iaith ar eich gwefan neu dudalen, yn cynnwys cyfraniadau i flogiau, fforymau ayb, yn addas i ymwelwyr ifanc ac heb fod â chyswllt uniongyrchol â deunydd anaddas ar wefannau eraill
  • darparwch broses eglur i rieni ac eraill i riportio cynnwys anaddas neu fwlio ar-lein ac i ofyn am gael diddymu’r cynnwys
  • cael gweithdrefn gadarn i ymdrin â ac asesu adroddiad neu gais o’r fath a gweithredu’n ddiymdroi i ddileu’r deunydd tramgwyddus.

Ni fydd ‘All Afloat’ yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc.

Mae Mudiad y Sgowtiaid yn cynhyrchu canllawiau gonest i oedolion a phobl ifanc ar sut i ddefnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol ac mae rhain i’w cael ar www.scouts.org.uk

Gwefan arall sy’n cynnig gwybodaeth am fod yn ddiogel ar-lein ydy www.thinkuknow.co.uk

 

Footer

About us

  • About Us
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Donate
  • Cymerwch ran

Support All Afloat on AmazonSmile

smile.amazon.co.uk

CAIFF EIN RHAGLEN GEFNOGAETH GAN DILYNWCH

Follow

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
#AllAfloat
01248 670814
info@all-afloat.wales
  • Privacy Policy
  • Terms & Conditions
  • Login

© 2025 · All Afloat · Rhif Elusen Gofrestredig 1175241​ · Swyddfa Gofrestredig: 8 Llys-y-Môr, Plas Menai, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1UE