Gweddnewid bywydau
Mae cymryd rhan yn ifanc mewn hwylio a thrin cychod wedi bod yn fodd o arwain i lawer canlyniad cadarnhaol a gwahanol. Nod ‘All Afloat’ ydy gallu cynnig y cyfleoedd hyn i bob unigolyn ifanc yng Nghymru sydd o fewn cyrraedd rhesymol i ddŵr addas.
Mae gan RYA Cymru Wales hanes o gefnogi pobl ifanc ar y daith hon ac y mae yna brawf sicr fod cael eu cyflwyno’n gynnar i hwylio wedi rhoi iddyn nhw sgiliau allweddol bywyd fu’n help yn eu gyrfaoedd sy’n aml wedi arwain i deithio ac i swyddi cyffrous.
Ar hyd a lled Cymru mae ‘All Afloat’ yn cefnogi’r llwybr sy’n arwain at y cyfleoedd niferus hyn ac yn gwir weddnewid bywydau.
Gall pob prosiect unigol amrywio yn ôl y grŵp, canolfan ddarparu a lleoliad, ond maen nhw’n dilyn set o fodiwlau cyffredin sy’n help i adeiladu taith gynyddol.
Mae pob un modiwl yn esgynnol ac angen gwahanol lefelau o gymorth ond mae pob un wedi eu canolbwyntio ar ymglymiad, hwyl a datblygu sgiliau bywyd.
Yn 2017, cychwynnodd y rhaglen Dyddiau Blasu Hwylio ‘All Afloat’, wedi’i chynllunio i gyflwyno pobl ifanc i’r gamp o hwylio am y tro cyntaf. Yna dilynwyd rhain gan Sesiynau Hwylio ar ôl Ysgol.
Dyddiau Blasu Hwylio
Gan gychwyn ym Mai 2017, dechreuwyd cynnig dyddiau blasu hwylio ar hyd a lled Cymru, gyda’r nod o roi cyfle i bobl ifanc hwylio am y tro cyntaf. Cynlluniwyd rhain i roi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau hwylio a thrin cychod gyda’r pwyslais ar ddiogelwch a mwynhau.
Ym mhob un diwrnod blasu, darparwyd yr holl offer angenrheidiol, olygai y gallai’r bobl ifanc gyrraedd a mynd ar y dŵr heb fawr ffwdan.
Ym Mae Colwyn, cafodd y bobl ifanc i gyd gyfle i ymarfer eu sgiliau hwylio a chael mwynhad eithriadol ar y traeth ac yn y môr. Roedd cinio am ddim i’w gael a chafodd y digwyddiad i gyd ei gofnodi mewn lluniau ac ar ffilm gan TVConwy ( http://www.tvconwy.net ). Felly hefyd yn achos dyddiau blasu Bae Llanion a Bae Caerdydd oedd wedi eu cofnodi mewn llun a ffilm gan y wasg leol a thîm RYA Cymru Wales.
Mae’r plant sy’n mynychu dyddiau blasu’n gwir fwynhau dysgu hwylio, a chyfarwyddo â diogelwch ar y môr, dŵr ac wrth drin cychod, cyn mynd ar fwrdd cwch o gwbl, a’r cyfan wedi ei gyflwyno gan staff a gwirfoddolwyr profiadol, cyfeillgar a chymwys. Eu nod ydy cael hanner y plant i fod wedi gwirioni ar hwylio ac yn dymuno mynd ymlaen i’r cam nesaf gyda chefnogaeth.
Clwb Hwylio ar ôl Ysgol
Mae Clwb ar ôl Ysgol ‘All Afloat’ yn darparu cyfle i’r plant sy’n cymryd rhan, gan gychwyn â rhai 9 a 10 oed, i ddatblygu eu sgiliau hwylio yn ystod nifer o sesiynau hwylio dan oruchwyliaeth wedi eu trefnu ymlaen llaw. Mae pob sesiwn wedi ei chynllunio i gynyddu hyder a chaniatáu iddyn nhw gwblhau ei hardystiad cam 1 RYA – y cam cyntaf mewn gyrfa hwylio fydd yn datblygu amrediad eang o sgiliau bywyd.
Ymhlith y prif weithgareddau mae lansio a glanio cwch hwylio, dysgu sut i drin cwch, llywio a dysgu am y gwahanol rannau o gwch a sgiliau sylfaenol morwriaeth – mewn geiriau eraill maen nhw’n dysgu sut i lywio cwch hwylio bach ac i ddeall egwyddorion sylfaenol diogelwch tra’n hwylio.
Tu hwnt i sgiliau sylfaenol hwylio mae’r gweithgareddau’n datblygu sgiliau bywyd sy’n arwain at gynyddu hyder, dysgu cydweithio fel rhan o dîm, deall manteision ‘cymryd rhan’ ac, i rai, hwn fydd y tro cyntaf iddyn nhw deimlo eu bod wedi ‘cael eu cynnwys’ beth bynnag fo’r sgiliau. Bydd rhai’n canfod gallu naturiol i ddysgu camp na fu o ddiddordeb iddyn nhw cyn hyn, gan nad oedden nhw’n gwybod sut i fanteisio ar y cyfle. Dyma’r peth pwysig am ‘All Afloat’ – mae’n rhoi cyfle i blant wneud rhywbeth cwbl wahanol i’r ‘norm’.
I feithrin a chefnogi eu syniad o ymglymu ar ddiwedd Clwb ar ôl Ysgol ‘All Afloat’ caiff pob unigolyn Grys-T ‘RYA OnBoard’ am ddim a Llyfr Log Cychwyn Hwylio.
Clwb Hwylio yn y Gwyliau a Regata
Mae clwb hwylio yn y gwyliau ‘All Afloat’ yn rhoi cyfle i gyfranogwyr o’r clwb ar ôl ysgol barhau â’u taith drwy’r gwyliau haf. Mae’n caniatáu iddyn nhw barhau i ddatblygu eu sgiliau hwylio ac mae’n bur debyg byddan nhw’n gweithio tuag at ennill tystysgrif Cam 2 RYA. Fel arfer, mae’n para am 6 diwrnod gyda’r chweched diwrnod yn regata hwyliog.
Mae’r regata diwrnod olaf ‘All Afloat’ yn gyfle iddyn nhw arddangos y sgiliau maen nhw w
edi eu dysgu yn ogystal â phrofi iddyn nhw eu hunain yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni. Mae’n hwb digamsyniol i’w hyder. Mae’r regata hefyd yn rhoi cyfle i gefnogwyr a noddwyr y rhaglen i fynychu a chydnabod cyflawniad y rhai sy’n cymryd rhan.
Gŵyl ‘OnBoard’ RYA
Mae Gŵyl ‘OnBoard’ RYA yn achlysur ar benwythnos fel arfer ar ddiwedd Awst. Mae RYA Cymru Wales yn cefnogi dau ddigwyddiad, un yn Y Bala i hwylwyr Gogledd Cymru ac un ar Lyn Syfaddan (Llan-gors) ar gyfer De Cymru. Mae’n casglu ynghyd hwylwyr ifanc o bob lefel profiad ac yn cyflwyno’r hwylwyr newydd, sydd fel arfer yn iau, i’r rhai hŷn fydd yn fodelau rôl iddyn nhw.
Fel arfer, mae’r ŵyl yn cychwyn ar nos Wener drwy ymgynnull yn anffurfiol, cofrestru a pharatoi’r cychod. Bydd bore Sadwrn yn cychwyn gyda’r briffio, croesawu’r hwylwyr a rhestru’r gweithgareddau, fydd fel arfer yn golygu rasio gwahanol ddosbarthiadau ar y Sadwrn a’r Sul. Daw’r ŵyl i ben gyda’r cyfarfod cyflwyno gwobrau bnawn dydd Sul. I rai, hwn fydd y tro cyntaf iddyn fod wedi teithio oddi cartref ac mae’n gyfle unigryw mewn amgylchedd diogel a rheoledig.