• Skip to main content
  • Skip to footer
  • Hafan
  • Beth ydy ‘All Afloat’
    • Ymddiriedolwyr
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Cymerwch ran
  • Lles Plant a Diogelu
    • Canllawiau ‘All Afloat’ ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant
    • Plant a Phobl Ifanc
    • Ffotograffiaeth, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefannau
    • Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr
    • Riportio Digwyddiadau
    • Byrddau Lleol Diogelu Plant
    • Rhieni a Gofalwyr
    • Cwestiynau Mynych (FAQs)
  • Donate
  • English

Rhif Elusen Gofrestredig 1175241

Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr

Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr

Fel hyfforddwyr hwylio byddwch yn datblygu perthynas gref a chadarnhaol â phobl ifanc ac yn dod yn fodelau rôl. Dylech fabwysiadu’r safonau uchaf, gan fod gennych rôl hanfodol i ddarparu amgylchedd hwyliog a diogel y gall pobl ifanc fwynhau eu profiadau hwylio ynddo. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’ch dyletswydd gofal a’r canllawiau cyfredol ar arferion da, a dylech ymddwyn yn gyfrifol yng nghwmni pobl ifanc. Bydd hyn yn diogelu ac amddiffyn pobl ifanc wrth i chi eu hyfforddi a dylai hyn leihau’r posibilrwydd o gamddealltwriaeth ac osgoi honiadau o ymddygiad anaddas.

Mae’r holl hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes hwylio â phobl ifanc mewn sefyllfa lle mae ymddiriedaeth wedi ei osod arnyn nhw ynddyn gan rieni, y gamp a’r unigolyn ifanc. Gellir disgrifio’r berthynas fel un lle mae’r oedolyn mewn sefyllfa rymus a dylanwadol oherwydd ei sefyllfa.

Egwyddorion

Mae gan yr holl bobl ifanc ym maes hwylio, waeth beth fo’u hoedran, gallu, rhyw, gallu, hil, crefydd neu gred, tarddiad ethnig, statws cymdeithasol neu gyfeiriadedd rhywiol, yr hawl i gael eu diogelu rhag niwed.

Dylid bob amser barchu hawliau, urddas a gwerth pob unigolyn ifanc.

Dylai pob un o’r hyfforddwyr a gwirfoddolwyr fod yn gyfarwydd â chanllawiau lles ‘All Afloat’, a’r hyn sy’n arfer dda ac arfer gwael.

Rhestr wirio Hyfforddi

  • Ydy’r amgylchedd a’r offer yn ddiogel?
  • Oes gennych chi ddigon o gymorth?
  • Ydy’r gweithgareddau’n addas i’r oedran?
  • Ydych chi wedi eich hyfforddi’n ddigonol?
  • Ydych chi wedi cwblhau eich datgeliad DBS?

Gwefannau i Hyfforddwyr/ i Wirfoddolwyr

www.thinkyouknow.co.uk – Yma cewch adnoddau gan ‘Thinkuknow’ ar gyfer athrawon a’r holl bobl broffesiynol eraill sy’n gweithio â phobl ifanc. Mae yma ffilmiau, cyflwyniadau, gemau, cynlluniau gwersi a phosteri ar amrediad o bynciau o feithrin perthynas amhriodol gan droseddwyr rhyw hyd at seibrfwlio.

www.sportscoachuk.org – Yn datblygu dysg am hyfforddi ac yn cynnig cefnogaeth sy’n ategu rhaglenni penodol am chwaraeon. Mae’n cynnig ymchwil ac arferon da sy’n cefnogi hyfforddiant.

 

Footer

About us

  • About Us
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Donate
  • Cymerwch ran

Support All Afloat on AmazonSmile

smile.amazon.co.uk

CAIFF EIN RHAGLEN GEFNOGAETH GAN DILYNWCH

Follow

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
#AllAfloat
01248 670814
info@all-afloat.wales
  • Privacy Policy
  • Terms & Conditions
  • Login

© 2025 · All Afloat · Rhif Elusen Gofrestredig 1175241​ · Swyddfa Gofrestredig: 8 Llys-y-Môr, Plas Menai, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1UE