Pan fyddwch chi’n mynd i chwarae i’ch clwb, dylai fod yn gyfle i gael sbort, dysgu rhai sgiliau newydd, cystadlu neu efallai gymdeithasu gyda’ch ffrindiau.
Er mwyn i Hwylio fod yn hwyl, rhaid i chi gael sicrwydd eich bod yn ddiogel. Mae hynny’n golygu dylai pobl eraill eich trin â pharch, a ddylech chi ddim fod yn gwneud unrhyw beth sy’n achosi i chi deimlo ei fod yn anniogel.
Mae hynny’n cynnwys y bobl ifanc sy’n hwylio gyda chi. Mae hefyd yn cynnwys hyfforddwyr, neu bobl sy’n helpu i redeg eich clwb.
Mae llawer o bethau ar gael i sicrhau fod y bobl sy’n hyfforddi, a’r mannau gallwch chi hwylio, yn cynnig gwasanaeth da i blant a rhai yn eu harddegau, ac yn gwybod sut i ofalu’n briodol amdanoch chi.
Beth i’w wneud os ydych chi’n bryderus
Dyma rai ffyrdd y gallwch ddelio â phobl allai fod yn achosi pryder i chi.
- Rhowch wybod i oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi. Gallai hyn fod yn rhiant, hyfforddwr neu rywun arall yn eich ysgol neu glwb hwylio byddech chi’n hapus i siarad ag e / â hi.
- Bydd gan eich clwb hwylio rywun y gallwch chi siarad gyda e / â hi. Ewch ar hysbysfwrdd eich clwb i gael manylion am Swyddog Lles y Clwb.
Gallwch gysylltu â Phil Braden, Prif Weithredwr RYA Cymru Wales drwy e-bost neu ar y ffôn 07450239152
Os hoffech i ni eich galw chi nôl neu ateb eich e-bost, rhowch wybod sut a pha bryd.
Gallwch hefyd gysylltu â Childline ar 0800 1111 am gyngor a chymorth neu fynd ar eu gwefan www.childline.org.uk am wahanol ddulliau o ofyn cwestiynau a chael help.
Mae’r NSPCC yn amddiffyn plant ar hyd a lled y DU ac yn cynnal dewis eang o wasanaethau i blant ac oedolion, gan gynnwys ffonau cyswllt cenedlaethol a phrosiectau lleol.
Am ragor o wybodaeth am fwlio a sut i’w drechu, ewch ar Kidscape.
Ymddygiad amhriodol – beth sydd ddim yn dderbyniol?
Caiff y mwyafrif brofiadau hyfryd wrth hwylio, ond weithiau bydd eraill yn gwneud pethau i’ch gwneud chi neu’ch ffrind deimlo’n anniogel neu’n anhapus. Dydy hyn ddim yn iawn. Gallai hynny gynnwys:
- Pigo arnoch chi neu’ch bwlio (gallai hyn hefyd fod ar-lein neu drwy neges testun)
- Eich curo neu eich anafu
- Gwneud sylwadau am y ffordd rydych chi’n edrych neu’n siarad
- Gwneud sylwadau hiliol, rhywiol neu homoffobig
- Eich cymell i fod yn gyfeillgar â nhw neu i’w cyfarfod neu i dreulio amser yn eu cwmni pan na fyddwch yn dymuno hynny
Dydy’r rhain ddim yn iawn, ac mae gennych chi hawl i ddelio â nhw.
Gwefannau Plant a Phobl Ifanc
www.there4me.com – Gwefan gynghori i rai yn eu harddegau 11 – 16. Cyngor ar y sgrin am bob math o bynciau, gan gynnwys bwlio, cam-drin, perthynas, arholiadau, cyffuriau, anawsterau yn eich cartref.
www.childline.org.uk – Mae ChildLine yn llinell gyswllt am ddim, 24 awr y dydd i blant a phobl ifanc yn y DU. Gall plant a phobl ifanc eu galw ar 0800 1111 am unrhyw broblem, ar unrhyw adeg – ddydd a nos.
www.bullying.co.uk – Mae llawer o gynghorion ar y wefan hon ar sut i ddelio â bwlio. Mae yno hefyd ddolenni cyswllt buddiol i gael cynghorion eraill.
www.thinkyouknow.co.uk – 5 – 7 oed? Mae’r wefan hon i’ch cynghori sut i fynd ar y rhyngrwyd yn ddiogel ac i roi gwybod â phwy dylech chi siarad os ydych chi’n pryderu.
www.thinkyouknow.co.uk – 8 – 10 oed? Efallai byddwch chi’n deall llawer am ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae’r wefan hon yn dangos yr hyn rydyn ni’n gredu sy’n dda, yn edrych ar bethau sydd heb fod yn dda ac yn dangos i chi sut mae osgoi bod mewn sefyllfaoedd gwael.
www.thinkyouknow.co.uk – 11 – 16 oed? Sut i fwynhau, sut i gadw rheolaeth ar bethau a sut i riportio pethau sydd ddim yn iawn.