Dyma ragor o wybodaeth am yr hyn fu’n digwydd – hanesion Gogledd Cymru, De Cymru a Gorllewin Cymru.
Gogledd Cymru
Gogledd Cymru
Dechreuodd rhaglen 2017 ‘All Afloat’ yng Ngogledd Cymru, gyda mwy na 100 o bobl ifanc yn mynychu tri diwrnod blasu hwylio cychod.
Cynhaliwyd y dyddiau blasu hwylio cychod yng Nghanolfan ‘Colwyn Bay Watersport’, wedi eu cynllunio i roi hwyl i bobl ifanc a chyflwyniad diogel i hwylio a gweithgareddau dwr a thraeth. Roedd hwn yn gyfle nad oedden nhw erioed wedi ei gael o’r blaen, er iddyn nhw fyw ger y môr!
Yn dilyn y sesiynau cychwynnol llwyddiannus hyn, aeth 65 o bobl ifanc ymlaen i fod yn rhan o glwb ar ôl ysgol oedd yn digwydd ar nosweithiau Mercher a Gwener dro gyfnod o 7 wythnos. Yn y sesiynau 2 awr hyn, bu’r ieuenctid yn gweithio ar gyfer tystysgrif cam 1 Cynllun Hwylio Ieuenctid RYA. Pan ddaeth y sesiynau i ben, dewisodd 54 o bobl ifanc fod yn rhan o glwb hwylio dros y gwyliau oedd yn cynnig 6 diwrnod o weithgaredd hwyliog ar y dwr i’r bobl ifanc, a llwyddodd llawer ohonyn nhw i ennill tystysgrif cam 2 Cynllun Hwylio Ieuenctid RYA. Cynhaliwyd diwrnod regata ar ddiwedd y clwb gwyliau, fu’n gyfle i rieni, gofalwyr a chyfeillion ddod i lawr i’r traeth i wylio’r hyn roedd y bobl ifamc wedi ei gyflawni. Cafodd y cwrs 6 diwrnod hwn ei ailadrodd drwy’r gwyliau haf i sicrhau fod pawb oedd am gymryd rhan wedi cael y cyfle.
Yn dilyn y lansiad hynod llwyddiannus hwn yng Ngogledd Cymru, teithiodd 14 o bobl ifanc o raglen ‘All Afloat’ i ŵyl penwythnos ‘RYA OnBoard’ yn Y Bala yn nechrau Medi. Aeth 3 unigolyn ymlaen i ymuno â’r Uned Cadetiaid Môr lleol, ac mae’r clwb hwylio wedi noddi aelodaeth unigolyn ifanc arall. Ac yn olaf, gwahoddwyd 20 o’r rhai fu’n rhan o’r cynllun ‘All Afloat’ i benwythnos preswyl i Ganolfan Awyr Agored Cenedlaethol Plas Menai.
De Cymru
Cynhaliwyd rhaglen ‘All Afloat’ mewn dau leoliad yn Ne Cymru, gyda phob lleoliad yn cynnig cyfle i wahanol grwpiau i roi cynnig ar hwylio a gweithgareddau cychod gyda’r nos ac yna yn ystod y gwyliau haf.
Lleoliad – Abertawe
Bu 23 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiynau blasu hwylio yn Abertawe. Ar ôl briffio ar y lan, aeth yr ieuenctid allan ar y dwr i roi cynnig ar hwylio. Cafodd pob unigolyn ifanc gyfle o “reid hwyliog”, gyda hyfforddwr RYA mewn cwch dau berson. Ar ôl derbyn adborth gwych, fe gawson ni raddfeydd cadw ardderchog ar ôl y sesiynau blasu, gyda 16 o’r 23 yn mynegi diddordeb i barhau i hwylio! Wnaethon ni droi’r ‘mynegi diddordeb’ i fod yn ‘cymryd rhan’ wrth i’r cyfan o’r 16 fynychu’r sesiynau dysgu hwylio ar nos Wener, gyda phob un yn gweithio tuag at ennill tystysgrif cam 2 Cynllun Hwylio Ieuenctid RYA.
Teithiodd 7 o’r ieuenctid fu yn y nosweithiau dysgu hwylio i gystadlu yn y regata Acorn a’r ŵyl ‘OnBoard’ yn Llan-gors!
Lleoliad – Caerdydd
Mynychodd 48 o bobl ifanc o grwpiau ieuenctid ac ysgolion cynradd ar hyd a lled Caerdydd y 4 rhan o’r sesiynau blasu yng Nghanolfan Channel View, Caerdydd. Bu pob grŵp yn cymryd rhan mewn 3 sesiwn gyda’r nos. Yn y sesiynau hyn roedd cyfle i’r bobl ifanc gael eu profiad cyntaf o hwylio mewn dingis Hansa/Access. O’r sesiynau blasu hyn, mynychodd 12 sesiynau dysgu hwylio dilynol yng nghanolfan hwylio Caerdydd. Bu’r 12 unigolyn ifanc yn gweithio tuag at ennill tystysgrif cam 1 Cynllun Hwylio Ieuenctid RYA.
Yn ogystal â’r sesiynau dysgu hwylio dros yr haf, fe gawson nhw hefyd gyfle i drafod cychod cêl a bu 4 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiynau cychod cêl, a phob un o’r pedwar yn dweud eu bod nhw’n ei argymell i eraill!
Gorllewin Cymru
Cynhaliwyd rhaglen beilot ‘All Afloat’ mewn 3 lleoliad yng Ngorllewin Cymru gan gynnig cyfle i rai gael profiad o hwylio, hwylfyrddio, bwrdd-badlo a cheufadu.
Lleoliad – Bae Llanion, Doc Penfro
Yn nechrau Gorffennaf, bu chwe merch ifanc Fwslimaidd o Fosg Aberdaugleddau yn mynychu cyfres o sesiynau i ennill eu tystysgrif cam 1 Cynllun Hwylio Ieuenctid RYA. Ar ôl derbyn adborth gwych, dychwelodd 3 i sesiynau pellach gyda’r nos a dyddiau Sadwrn ac fe enillodd 2 o’r merched eu tystysgrif cam 2.
Yn ychwanegol, mynychodd 10 o bobl ifanc gwrs cam 1 Cynllun Hwylio Dingi RYA oedd wedi’i drefnu gan bartneriaeth datblygu chwaraeon lleol. Unwaith eto, cafodd y sesiynau hyn groeso mawr. Gyda help hyfforddwyr lleol i’w addysgu drwy’r cwrs rasio, aeth nifer o’r rhai gymerodd ran ymlaen i gystadlu ar y Gylchdaith Rasio Ieuenctid ymhlith y Clybiau.
Lleoliad – Dale, Aberdaugleddau
Mynychodd 6 o bobl ifanc o Ysgol Fenton gwrs cam 1 Cynllun Hwylio Ieuenctid RYA ac wedi hynny ymunodd 6 ohonyn nhw â Chlwb Hwylio Dale. Aeth pob un ymlaen i fynychu’n rheolaidd y sesiynau gyda’r nos am 12 wythnos, gan fynd ymlaen i ennill tystysgrifau cam 2 Cynllun Hwylio Ieuenctid RYA.
Teithiodd 5 o bobl ifanc o’r cwrs cam 1 i’r regata diwedd tymor Acorn a’r ŵyl ‘OnBoard’ yn Llan-gors. Trodd un unigolyn ifanc at hwylfyrddio, gan ennill gwobr arall am ennill.
Gan gofio’r pellter i Lan-gors, trefnodd Gorllewin Cymru ddigwyddiad gŵyl ranbarthol ‘AllAfloat’ hynod lwyddiannus yn Awst gyda 27 o hwylwyr newydd o’r rhanbarth yn ei fynychu.
O’r sesiynau cychwynnol, aeth 2 hwyliwr ymlaen i’r llwyfan mawr a mynychu Pencampwriaethau Rhanbarth Cymru RYA 2017 yn Abergwaun, oedd yn ddigwyddiad llwybr perfformiad, sy’n ffurfio rhan o drefn dewis sgwadiau Cymru a’r tîm Cenedlaethol.
Mae un hwylwraig wedi ei noddi i hwylio mewn rhaglen aeaf wedi ei threfnu gan PPSA. Mae hi’n dod ymlaen yn dda a chyn hir bydd yn cael ei ardystio ar gyfer “hwylio â sbinacr”.
Lleoliad – Canolfan ‘Cardigan Bay Watersports’
Ym Mae Ceredigion, bu 22 o bobl ifanc o ysgol gynradd Ceinewydd yn cymryd rhan mewn aml-weithgaredd ar y dwr. Cafodd y bobl ifanc gyfle i roi cynnig bwrdd badlo, hwylfyrddio, ceufadu a hwylio.
O’r grŵp hwn, bu 12 o bobl ifanc yn cymryd rhan i ennill tystysgrif cam 1 Cynllun Hwylio Ieuenctid RYA. Yn dilyn hyn, aeth 11 ymlaen i gwblhau eu cymhwyster cam 2. Doedd hynny ddim yn ddigon, aeth 8 o’r bobl ifanc ymlaen i fynychu dwy sesiwn hyfforddi rasio. Bu 3 o’r bobl ifanc yn cymryd rhan yn y sesiwn cyntaf, a 5 arall yn mynychu’r ail sesiwn.
Fe wnaeth 3 o’r bobl ifanc hyn gystadlu yn y 2 olaf o’r gyfres o 4 Sadwrn oedd yn cael eu rhedeg gan glwb hwylio Ceinewydd ac yn agored i oedolion a phlant. Roedden ni’n hynod falch o weld cystal roedden nhw’n arddangos y sgiliau roedden nhw wedi eu dysgu yn ystod camau 1 a 2 RYA a’r sesiynau sgiliau rasio a chadw lan â’r oedolion yn y 2 ras 45 munud!