Mae hwylio’n cynnig cyfleoedd i fwynhau a chyflawni; gall ddatblygu rhinweddau megis hunan-barch, arweinyddiaeth a gwaith tîm, yn ogystal â manteision corfforol. Mae darparu profiad hwylio positif i bobl ifanc yn golygu y byddan nhw’n fwy tebygol o gyflawni eu gwir botensial.
Mae gan bob unigolyn ifanc yr hawl i fwynhau a bod yn ddiogel a bod yn rhydd o niwed. Fel rhiant / gwarchodwr dylech deimlo’n gysurus gyda’r amgylchedd y bydd eich plentyn yn ei fynychu ac y gallwch holi cwestiynau am y clwb, y strwythur, y bobl, polisïau ac arferion.
Cwestiynau i’w hystyried
Ydy’r hyfforddwyr wedi cymhwyso?
Argymhellir y dylai pob hyfforddwr/arweinydd fod a chymwysterau Hyfforddi/Arwain cyfredol wedi ei gydnabod gan RYA a bod rhain ar gyfer y lefel gweithgaredd sy’n cael ei hyfforddi.
Ydy’r hyfforddwyr wedi derbyn yr hyfforddiant priodol?
Argymhellir yn gryf bod pob hyfforddwyr/arweinwyr sy’n gweithio â phobl ifanc fynychu gweithdy Diogelu ac Amddiffyn i Hyfforddwr Chwaraeon RYA a bod ganddyn nhw dystysgrif cymorth cyntaf.
Ydy’r hyfforddwyr a phersonél y clwb yn addas i weithio â phobl ifanc?
Dylai pob un o’r hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy’n gofalu’n rheolaidd, hyfforddi, goruchwylio neu mewn gofal llwyr o bobl ifanc fod wedi cael gwiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Datgeliad Manylach gyda gwiriad Rhestr Rhai Gwaharddedig rhag gweithio â Phlant).
Pryderon?
Os ydych chi’n pryderu neu ofidio am eich plentyn ac angen cyngor, gallwch gysylltu â Swyddog Lles y Clwb ac egluro eich pryderon. Yna bydd Swyddog Lles y Clwb yn siarad â Swyddog Arweiniol RYA, os bydd angen. Caiff pob pryderon eu trin yn gwbl gyfrinachol, a heb gynnwys dim ond y rhai all helpu’r sefyllfa. Mae ‘All Afloat’ yn riportio drwy adran riportio RYA Cymru Wales.
Os byddwch yn chwilio am arweiniad, edrychwch ar y dolenni gwe isod ar gyfer rhieni. Gall y gwefannau hyn ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i rieni a gofalwyr.
Fel rhiant/gofalwr dylech bob amser sicrhau’r canlynol:
- trefnu fod eich plentyn yn cael eu cludo a’u casglu’n brydlon o’r clwb
- cysylltu â’r clwb os byddwch yn hwyr yn dod i gasglu eich plentyn
- glynu at reolau’r clwb
- glynu at y Côd ymarfer o fewn y clwb a derbyn yr arweiniad mae’r hyfforddwyr yn ei ddarparu
- defnyddio iaith briodol ar bob achlysur
- peidio byth â gorfodi eich plentyn i gymryd rhan
Gallwch helpu eich plentyn i fod yn gystadleuydd cadarn mewn amgylchedd diogel drwy wneud y canlynol:
- Pwysleisio a gwobrwyo ymdrech yn hytrach na’r canlyniad.
- Deall y gallai eich plentyn fod angen seibiant weithiau o’u chwaraeon.
- Cymell ac arwain eich plentyn, nid eu gorfodi na phwyso arnyn nhw i gystadlu.
- Pwysleisio pwysigrwydd o fwynhau, dysgu sgiliau newydd a datblygu sgiliau.
- Arddangos diddordeb yn eu cyfranogiad mewn chwaraeon, gan ofyn cwestiynau.
- Sylweddoli bod eich agwedd ac ymddygiad yn dylanwadu ar berfformiad eich plentyn.
Gwefannau i Rieni a Gofalwyr:
www.stopitnow.org.uk – Mae ‘Stop it now’ yn anelu i rwystro cam-drin plant yn rhywiol drwy godi ymwybyddiaeth a chymell canfod yn gynnar ac ymateb i’r broblem gan y cam-drinwyr a’r rhai sy’n agos atyn nhw
thinkyouknow.co.uk – Amddiffyn eich plentyn ar-lein
www.frg.org.uk – Mae’r ‘Family Rights Group’ yn cynnig gwasanaeth cynghori cyfrinachol, annibynnol ar y ffôn sy’n cefnogi rhieni ac aelodau eraill o deulu y mae eu plant yn ymwneud â’r gwasanaethau gofal cymdeithasol neu angen eu cymorth
www.fflag.org.uk – mudiad gwirfoddol cenedlaethol i rieni merched lesbaidd neu feibion hoyw, sy’n hyrwyddo llesiant pobl lesbaidd, hoyw a deurywiol, eu teuluoedd a’u cyfeillion
www.bullying.co.uk – Mae ‘Family Lives’ yn elusen gyda thros dri deg mlynedd o brofiad o helpu rhieni i ddelio â’r newidiadau sy’n rhan gyson o fywyd teuluol.