Mae ‘All Afloat’ yn sicrhau pob un sy’n gwirfoddoli y bydd yn cefnogi ac amddiffyn yn llawn unrhyw un sydd yn ddidwyll yn riportio ei bryderon ef neu hi am y posibilrwydd fod plentyn yn cael ei gam-drin.
Gall pryderon am gam-drin plant godi o gymaint o wahanol sefyllfaoedd a chyd-destunau. Nid cyfrifoldeb unrhyw un o fewn y gamp ydy gwneud ymholiadau camdriniaeth posibl ar blentyn ond mae’n hanfodol fod pawb yn deall yn glir y camau ddylid eu cymryd. Am ragor o fanylion, ewch i weld siart llif ‘All Afloat’ yn yr adran hon.
Mae gan ‘All Afloat’ Ffurflen Riportio Digwyddiad sy’n rhoi canllawiau clir i’ch arwain drwy’r wybodaeth sydd angen ei gasglu. Mae’r ffurflen hon hefyd i’w chael yn yr adran hon.
Beth ddylwn i wneud os bydd plentyn yn dweud rhywbeth pryderus wrthyf i?
Os bydd plentyn yn datgelu ei fod e / hi neu unigolyn ifanc arall yn cael eu cam-drin, dylai’r person sy’n derbyn y wybodaeth wneud fel hyn:
Riportio eich pryder i’r Swyddog Lles yn eich Clwb.
Os nad yw ar gael, riportiwch y mater yn uniongyrchol i Gydlynydd Diogelwch Plant y RYA. Cysylltwch â Phil Braden ar 01248 670814.
Mae gan bawb gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol i ymateb i unrhyw bryderon am les pobl ifanc.