• Skip to main content
  • Skip to footer
  • Hafan
  • Beth ydy ‘All Afloat’
    • Ymddiriedolwyr
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Cymerwch ran
  • Lles Plant a Diogelu
    • Canllawiau ‘All Afloat’ ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant
    • Plant a Phobl Ifanc
    • Ffotograffiaeth, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefannau
    • Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr
    • Riportio Digwyddiadau
    • Byrddau Lleol Diogelu Plant
    • Rhieni a Gofalwyr
    • Cwestiynau Mynych (FAQs)
  • Donate
  • English

Rhif Elusen Gofrestredig 1175241

Ymddiriedolwyr

Phil Braden 

Phil Braden – uwch swyddog gweithredol profiadol ac amryddawn oedd wedi gweithio mewn sawl sector busnes cyn ymddeol ddwy flynedd yn ôl o’r diwydiant Telegyfathrebu a Chyfryngau i ddilyn eu hoffter a dod yn Brif Weithredwr RYA Cymru Wales.  Ar sawl achlysur mae wedi adeiladu timoedd mawr, effeithiol ac aml-ddisgyblaethol o’u cychwyniad. Mae wedi gweithio fel uwch swyddog corfforaethol yn Unol Daleithiau America, Asia, Affrica, y Dwyrain Canol ac Ewrop, ac mae ganddo brofiad helaeth ym meysydd cyfathrebu lloeren a daearol, busnesau masnachol y gofod, darlledu cebl a lloeren ac adnoddau rhith-gyfryngol.

Mae’n un o’r ymddiriedolwyr sefydlodd elusen ‘All Afloat’, a chyn hynny, fel aelod o Glwb Hwylio Llandudno, roedd yn Gomodor yno o 2015 hyd 2017.

Phil Tilley 

Phil Tilley – wedi hwylio drwy’i oes a bellach yn driathletwr actif gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant uwch dechnoleg, gan reoli sawl prosiect marchnata byd-eang.

Dechreuodd hwylio yn yr ysgol a pharhau drwy ei ddyddiau coleg a bywyd priodasol, lle bu’n cystadlu gyda’i briod ar lefelau Cenedlaethol. Mae’n dad i dair merch, ac mae ganddo brofiad personol o lwybrau hwylio. Mae ei brofiad wedi arwain at sawl rôl wirfoddol o fewn y RYA yn cynnwys cadeirio dewiswyr Rasio Ieuenctid y DU RYA, aelod o bwyllgor Marchnata a Chyfranogiad y RYA a chyn aelod o bwyllgor perfformiad RYA CW.

 

Footer

About us

  • About Us
  • Prosiectau wedi eu Cyflawni
  • Gweddnewid bywydau
  • Donate
  • Cymerwch ran

Support All Afloat on AmazonSmile

smile.amazon.co.uk

CAIFF EIN RHAGLEN GEFNOGAETH GAN DILYNWCH

Follow

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
#AllAfloat
01248 670814
info@all-afloat.wales
  • Privacy Policy
  • Terms & Conditions
  • Login

© 2025 · All Afloat · Rhif Elusen Gofrestredig 1175241​ · Swyddfa Gofrestredig: 8 Llys-y-Môr, Plas Menai, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1UE